Mae’r mochyn lleiaf gallwn ddarparu yn bwydo 100 – felly mae ein holl fwydlenni yn cychwyn o ran pris yn seiliedig ar gant person. Os nad oes 100 yn mynychu rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â ni am bris, gallwch wedyn benderfynu os yw’r pris yn cyfiawnhau y niferoedd fydd yn bresennol. Chi sy’n berchen ar unrhyw gig sydd ar ôl , mi nawn ni ddarparu bagiau pwrpasol a gallwch ddefnyddio rhain i gadw y cig yn y rhewgell am 3 mis. Gallwn weini i 400/500
I archebu mae’n rhaid talu blaendal o 50% o fewn 48 awr i dderbyn yr anfoneb. Wedi’r cyfnod hwn bydd y dyddiad yn cael ei ryddhau ir cyhoedd unwaith eto
Yndan! Da ni’n trio ein gorau i blesio pawb!
Mae ein bwydlen Efydd yn cael ei weini mewn napcynau. Bydd ein bwydleni Arian, Aur a Phlatinwm yn cael ei gweini ar blatiau ailgylchadwy safonol gyda chyllith a ffyrc pren. Gallwn hefyd gynnig llestri a chyllith a ffyrc ‘go iawn’ am bris ychwanegol
Gallwch! Ond da ni’n awgrymu eich bod yn cysylltu cyn archebu i drafod unrhyw heriau posib!
Byddwn yn cyrraedd tua 2 awr cyn gweini(tua 3 os yn paratoi y fwydlen Aur neu Blatinwm) ac yn gweini am rhwng 1 a 2 awr – Digon o amser i bawb ddod nôl am fwy!
Mynediad at ddŵr poeth i sicrhau safonau hylendid, soced dwbwl os yn dewis sglodion neu wejis. Hefyd digon o le parcio i Hilda’r Hwch (ein fan!)
Tua 9 metr sgwâr. Ond os byddwch yn dewis y fwydlen Aur neu Blatinwm byddai cegin/ystafell fach yn ddelfrydol.
Tydi hi byth yn bwrw yng Nghymru wrth gwrs! Ond os byddwch yn anlwcus iawn mae gennym gazebos i achub y dydd!
I fyny at 40 milltir o Gaerdydd (gall hyn arwain at gost ychwanegol)
