Mae’r mochyn lleiaf gallwn ddarparu  yn bwydo 100 – felly mae ein holl fwydlenni yn cychwyn o ran pris yn seiliedig ar gant person.  Os nad oes 100 yn mynychu rydym yn awgrymu eich bod yn cysylltu â ni am bris, gallwch wedyn benderfynu os yw’r pris yn cyfiawnhau y niferoedd fydd yn bresennol.   Chi sy’n berchen ar unrhyw gig sydd ar ôl , mi nawn ni ddarparu bagiau pwrpasol a gallwch ddefnyddio rhain i gadw y cig yn y rhewgell am 3 mis.  Gallwn weini i 400/500

I archebu mae’n rhaid talu blaendal o 50% o fewn 48 awr i dderbyn yr anfoneb.  Wedi’r cyfnod hwn bydd y dyddiad yn cael ei ryddhau ir cyhoedd unwaith eto

Yndan! Da ni’n trio ein gorau i blesio pawb!

Mae ein bwydlen Efydd yn cael ei weini mewn napcynau.  Bydd ein bwydleni Arian, Aur a Phlatinwm yn cael ei gweini ar blatiau ailgylchadwy safonol gyda chyllith a ffyrc pren.  Gallwn hefyd gynnig llestri a chyllith a ffyrc ‘go iawn’ am bris ychwanegol

Gallwch! Ond da ni’n awgrymu eich bod yn cysylltu cyn archebu i drafod unrhyw heriau posib!

Byddwn yn cyrraedd tua 2 awr cyn gweini(tua 3 os yn paratoi y fwydlen Aur neu Blatinwm) ac yn gweini am rhwng 1 a 2 awr – Digon o amser i bawb ddod nôl am fwy!

Mynediad at ddŵr  poeth i sicrhau safonau hylendid, soced dwbwl os yn dewis sglodion neu wejis.  Hefyd digon o le parcio i Hilda’r Hwch (ein fan!)

Tua 9 metr sgwâr.  Ond os byddwch yn dewis y fwydlen Aur neu Blatinwm byddai cegin/ystafell fach yn ddelfrydol.

Tydi hi byth yn bwrw yng Nghymru wrth gwrs!  Ond os byddwch yn anlwcus iawn mae gennym gazebos i achub y dydd!

I fyny at 40 milltir o Gaerdydd (gall hyn arwain at gost ychwanegol)

Call Iwan on : 07900 823654
Copyright © 2021 hogihogihogi.co.uk

Powered by POGO Digital