Ein Stori

Fel cwmni rydym yn ymfalchïo yn ein gwasanaeth proffesiynol a chyfeillgar. Byddwn yn coginio’r mochyn yn gyfan gwbl yn y lleoliad – mae sawl mantais dros wneud hyn. Mae pobl yn hoff iawn o ymgynyll ogwmpas y peiriant i weld y mochyn yn coginio, mae posib coginio ar ‘spit’ drwy goginio ar y safle, hefyd bydd oglau mochyn bendigedig i groesawu eich gwesteuon. Bydd y broses yn cymryd tua 6 awr gan ddibynnu ar faint y mochyn. Tra bod y mochyn yn coginio mi fyddwn yn gosod ein ‘gazebo’. Byddwn hefyd yn manteisio ar yr amser yma i osod llieiniau bwrdd a llestri arian ar y byrddau. Pan fydd y cig yn cyrraedd 75 gradd mi fyddwn yn arddangos y mochyn am ychydig funudau – i’w werthfawrogi gan dorf ddisgwylgar – cyn cychwyn cerfio. Bydd y gwestai yn helpu eu hunain i’r bwyd. Peidiwch bod yn swil a dewch ‘nôl am fwy!! Os ydych yn dymuno mi allwn roi y cig yn uniongyrchol ar eich plat. Mi fyddwn yn trafod beth i’w wneud gydag unrhyw fwyd sydd dros ben gyda’r trefnydd. Mae gennym fagiau penodol i gadw’r cig – Dwi’n siŵr byddwch yn gwerthfawrogi ambell i gyri neu frechdan dros y dyddiau nesaf. Wedi gorffen ein gwaith byddwn yn pacio ein stwff nôl yn y fan – gan drio peidio tarfu yn ormodol ar weddill y dathliadau. Byddwn hefyd yn sicrhau fod y lleoliad a ddefnyddiwyd gennym yn dwt a thaclus. Rydym hefyd yn cymryd rhan mewn digwyddiadau ar hyd a lled Cymru. Os ydych yn cynnal sioe neu ddigwyddiad ac am brofi rol borc blasus, a mochyn cyfan wedi ei rostio i roi tipyn o wawffactor i’ch digwyddiad cysylltwch.